Cymraeg
Ydych chi’n byw heb goed?
Mae miliynau ohonom yn colli allan ar y manteision iechyd a gawn gan goed oherwydd lle rydyn ni’n byw. Ydych chi? Rhowch eich cod post i mewn i weld beth allwch chi ei wneud am hyn.
Beth nesaf?
Rhowch hwb i goed yn eich ardal chi, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgyrchoedd.
-
Plant trees
Apply for free trees
Our free tree packs are the perfect way to green your school grounds or get your local community group planting. See if you're eligible for free trees and fill in an application.
-
Protecting trees and woods
Keep in touch
Get updates about this campaign (and others!) straight to your inbox, as well as petitions, appeals and other ways you can help make a difference.
2x
yn fwy o orchudd coed yng nghymdogaethau mwyaf cefnog y DU
30%
yn llai o lygredd NO₂ mewn cymdogaethau lle mae gorchudd coed y pen ar ei uchaf
1,300km²
o orchudd coed ychwanegol fyddai ei angen i sicrhau mynediad teg at goed yn y DU
Pam mae mynediad at goed yn bwysig
Ymarfer corff. Ocsigen. Therapi. Cysgod. Mae angen coed ar bob un ohonom, ond mae miliynau o bobl yn byw hebddynt.
Mae’r adnodd Sgôr Mynediad Teg at Goed yn y DU wedi datgelu bod gan y cymdogaethau trefol lleiaf difreintiedig fwy na dwy waith yn fwy o orchudd coed, y pen, na’r rhai mwyaf difreintiedig. Mae’r anghyfiawnder hwn yn golygu bod cymdogaethau sy’n wynebu mwy o heriau cymdeithasol ac amgylcheddol â llai o fynediad at y manteision hanfodol a gawn gan goed, gan gynnwys y canlynol:
- lefelau is o straen
- iechyd meddwl cyfoethocach
- amddiffyniad rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd
- llai o lygredd aer
- llai o lygredd sŵn
- cysgod hanfodol yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
Ni ddylai unrhyw un golli allan ar y manteision iechyd a gawn gan goed oherwydd lle maen nhw’n byw. Felly, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â chymunedau angerddol i wella’r gorchudd coed mewn trefi - diogelu coed pwysig, adfer mannau gwyrdd a chael mwy o goed yn y pridd.
Chwilio am ysbrydoliaeth
Dysgwch sut mae gwahanol bobl yn gwella mynediad at goed mewn ardaloedd trefol ledled y DU.