Edrych i mewn: Cymraeg
Helpwch ni i achub Coed Wern rhag cael ei ddinistrio
Mae coetir hynafol dan fygythiad o gynllun i greu parc gwyliau yng Nglasinfryn, ger Bangor.
Mae'r cynllun yn cynnwys 40 o gytiau gwyliau a fydd yn cael eu lleoli ar draws Coed Wern-ty-gwyn, yn ogystal â'r seilwaith cysylltiedig sydd ei angen i redeg y datblygiad. Fe fydd rhaid cwympo darn sylweddol o'r goedlan er mwyn gwneud lle i’r cytiau.
Nid yw coetir hynafol, na ellir ei ail-greu, yn lle addas ar gyfer parc gwyliau.
Nid yn unig y bydd y goedlan yn cael ei difetha, ni fydd bywydau'r creaduriaid sy’n byw yng Nghoed Wern yn un fath byth eto.
Mae cais cynllunio bellach wedi'i gyflwyno i Gyngor Gwynedd, felly mae gennym ni tan y 17fed o Hydref i ddangos i’r Cyngor fod y coetir hwn yn haeddu cael ei warchod.