Cymraeg
Adfer afonydd Cymru
Rydym wedi ymrwymo i wella ac adfer tua 500 cilometr o afonydd yng Nghymru.
Ein hymrwymiad i adfer glannau afonydd
Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gynllun uchelgeisiol sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), â’r nod o adfer iechyd ecolegol pedair o brif afonydd Cymru: Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg.
Mae’r afonydd hyn wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) oherwydd eu pwysigrwydd rhyngwladol i rywogaethau o fywyd gwyllt a phlanhigion, gan gynnwys eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc-y frân.
Fel partner allweddol yn y prosiect hwn, rydym wedi ymrwymo i wella ac adfer tua 500 cilometr o afonydd yng Nghymru dros bum mlynedd. Mae ein prif gyfraniad yn cynnwys plannu 50,000 o goed llydanddail brodorol ar hyd glannau afonydd i greu coetiroedd glannau afon.
Mae’r coetiroedd glannau afon hyn yn cyflawni nifer o swyddogaethau ecolegol, gan gynnwys:
- gwella ansawdd dŵr – mae coed yn gweithredu fel hidlyddion naturiol, gan amsugno dŵr ffo amaethyddol, a thrwy hynny leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr ymhellach i lawr yr afon
- creu cynefin – mae’r coed a blannwyd yn darparu cynefinoedd i rywogaethau amrywiol o fywyd gwyllt, gan helpu i gyfrannu bioamrywiaeth ar hyd y coridorau afonydd
- rheoli erydiad – mae gwreiddiau coed yn sefydlogi glannau afonydd, gan leihau erydiad a cholli pridd i afonydd
- rheoleiddio tymheredd – mae gorchudd canopi coed yn cysgodi’r afonydd, gan helpu i reoleiddio tymereddau dŵr, sy’n hollbwysig ar gyfer goroesiad rhywogaethau dyfrol sy’n sensitif i dymheredd.
Gweithio ar y cyd ac ymgysylltu â’r gymuned
Mae ein hymdrechion yn rhan o gydweithio ehangach â sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a chynghorau sir lleol. Gyda’n gilydd, rydym wedi llwyddo i blannu dros 24,000 o goed brodorol ar hyd glannau’r pedair afon.
Rydym hefyd yn gweithio mewn cysylltiad agos â ffermwyr a pherchnogion tir er mwyn gweithredu arferion rheoli tir cynaliadwy. Drwy greu lleiniau clustogi rhwng tir amaethyddol ac afonydd, rydym yn ceisio sicrhau bod llai o faetholion yn mynd i gyrsiau dŵr a hyrwyddo ecosystemau afonydd iachach.
Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gam arwyddocaol tuag at gyflawni nod yr Undeb Ewropeaidd o adfer 25,000 cilometr o afonydd erbyn 2030.
Drwy gydweithio parhaus a chynnwys y gymuned, rydym yn parhau â’n hymrwymiad i adfer a gwarchod harddwch naturiol a chyfanrwydd ecolegol afonydd Cymru i genedlaethau’r dyfodol.