Protecting trees and woods
Amaeth-goedwigaeth yng Nghymru
Gall amaeth-goedwigaeth arwain at gynaeafau mwy amrywiol, cynhyrchiol a chynaliadwy a chael effaith barhaol ar fywyd gwyllt, yr economi leol a thirwedd.
Edrych i mewn: Cymraeg
Mae gennym gyfle enfawr i newid y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir yng Nghymru drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd. Rydym yn galw am gymorth i helpu ein ffermwyr i roi bwyd cynaliadwy, cynefinoedd iach a gweithrediad ein hecosystemau yn flaenaf. Gallwn helpu ein ffermwyr, ein cymunedau a’n diwylliant i ffynnu drwy sicrhau bod Cymru’n mynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd nawr, yma a thramor.
Mae coed, gwrychoedd a choetiroedd yn hanfodol i gyflawni llawer o’r canlyniadau y mae’r cynllun yn ei ddymuno. Mae coed, yn enwedig coed brodorol, yn naturiol hanfodol i fusnes y fferm ac i oroesiad ac adferiad bywyd gwyllt. Maent yn adnodd naturiol gyda buddion enfawr i fusnesau fferm, gan leihau dibyniaeth ar fewnbynnau, lliniaru tywydd eithafol, helpu adferiad bywyd gwyllt a hybu lles cymunedol. Dyna pam rydym am weld Ein Deg Cais am Goed ar Ffermydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun newydd.
Annog tirfeddianwyr i gynyddu gorchudd coed drwy:
Rydym yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â'n hymgyrch i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r deg cais hyn o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Protecting trees and woods
Gall amaeth-goedwigaeth arwain at gynaeafau mwy amrywiol, cynhyrchiol a chynaliadwy a chael effaith barhaol ar fywyd gwyllt, yr economi leol a thirwedd.
About us
Coed Cadw ydym ni, y Woodland Trust yng Nghymru. Rydyn ni’n plannu coed ac yn ymgyrchu i sicrhau fod coetir a choed yn cael eu gwarchod ar draws y wlad.