Plant trees
Free trees for schools and communities
We want to make sure everyone in the UK has the chance to plant a tree. So we’re giving away hundreds of thousands of trees to schools and communities.
Edrych i mewn: Cymraeg
Po fwyaf o goed sydd gennych, gorau oll i’ch iechyd. Ar un o ddiwrnodau poethaf 2023, aethom ati i gofnodi’r tymheredd yng nghysgod coed trefol yng Nghaerdydd.
Os ewch chi allan ar ddiwrnod poeth o haf rydych yn siŵr o weld pobl yn cysgodi dan goed. Mae cysgod oer y canopi ar adegau o wres eithafol yn un o fanteision mwyaf adnabyddus coed, a chan fod tonnau gwres yn mynd yn fwy eithafol, ac yn digwydd yn amlach, mae darparu cysgod mewn ardaloedd trefol yn fater i bolisi iechyd cyhoeddus erbyn hyn.
Mae astudiaeth wedi amcangyfrif bod coed Llundain wedi helpu i osgoi 153 o farwolaethau yn gysylltiedig â gwres rhwng 2015 a 2022. Mae hyn yn cyfateb i tua 16% o’r holl farwolaethau yn gysylltiedig â gwres yn ystod y cyfnod hwn.
Er mwyn gweld y gwahaniaeth drosom ein hunain, ym mis Mehefin 2023 fe wnaethom gomisiynu Ti Thermal Imaging Ltd i gofnodi’r tymheredd arwyneb yng nghysgod coed trefol yng Nghaerdydd yn ystod ton wres. Fe wnaethon nhw hefyd gofnodi’r tymheredd arwyneb yn llygad yr haul yn ymyl y coed.
Crëwyd y delweddau thermol yn Adamsdown, ardal yn ne Caerdydd sydd â’r nifer mwyaf o gymdogaethau sy’n cael eu hystyried fel rhai â’r 'flaenoriaeth uchaf' ar gyfer gweithredu i sicrhau tegwch coed (oherwydd gorchudd coed isel a ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol eraill). Yn ychwanegol at hyn, mae tymheredd Adamsdown tua 4.4 gradd C yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Caerdydd – perffaith ar gyfer ein hastudiaeth.
Yn Constellation Street (gweler y llun uchod) cofnododd Ti Thermal Imaging Ltd y tymheredd arwyneb o dan ac o amgylch coeden drefol. Roedd y canlyniadau’n syfrdanol – roedd gwahaniaeth o tua 20 gradd C rhwng y tymheredd yn y cysgod a’r tymheredd yn llygad yr haul.
Mae’r gwahanol liwiau yn y ddelwedd thermol yn dangos effeithiau’r gwres ar wahanol leoliadau. Bydd ardaloedd sydd yn llygad yr haul – yn enwedig os ydynt yn dywyll – yn amsugno mwy o wres ac yn ei storio, yna’n ei ryddhau yn y nos, ffenomenon a elwir yn effaith ynys wres drefol.
Mae’r llun uchod, a dynnwyd ym Mhontcanna, yn dangos yr un patrwm o bron i 20 gradd C o wahaniaeth rhwng y tymheredd yng nghysgod y coed a’r tymheredd yn llygad yr haul. Y tro yma, fodd bynnag, mae coed ar ochr y ffordd, ac mae hynny’n lleihau’r effaith ynys wres drefol yn sylweddol.
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr coed i weld y gallai plannu mwy o goed yn Adamsdown helpu i ostwng tymereddau yn ystod tonnau gwres yn y dyfodol, yn ogystal â darparu holl fanteision eraill coed trefol i’r gymuned. Ond nid plannu coed yw’r unig beth y mae angen ei wneud – y coed sy’n darparu’r cysgod mwyaf yw coed sy’n cael eu rheoli’n dda ac sydd â chanopïau mawr, iach, felly mae gofalu am goed sy’n bodoli’n barod a’u diogelu yn hanfodol hefyd.
Gallwch archwilio effaith leol gorchudd canopi coed trefol ar dymereddau drwy ddefnyddio Tree Equity Score UK. Mae’r offeryn yn cyfrifo sgôr tegwch coed allan o 100 ar gyfer miloedd o gymdogaethau mewn trefi a dinasoedd drwy gyfuno data ar orchudd canopi coed â gwybodaeth am lygredd aer, incwm, oedran, cyflogaeth, iechyd a thymereddau. Mae’r offeryn yn mesur 'gwahaniaethau mewn gwres' – i ba raddau y mae cymdogaeth yn uwch neu’n is na’r tymheredd cyfartalog lleol yn ystod ton wres.
Dangosodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gwahaniaeth sylweddol yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i wres eithafol yn ystod y cyfnodau o wres uchel iawn a welwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 1 Mehefin a 31 Awst 2022. Disgwylir y bydd tonnau gwres a sychder yn cynyddu wrth i ni ddal i deimlo effeithiau newid hinsawdd, felly mae angen i wella gorchudd coed mewn ardaloedd trefol fod yn un o brif flaenoriaethau ein harweinwyr etholedig.
Plant trees
We want to make sure everyone in the UK has the chance to plant a tree. So we’re giving away hundreds of thousands of trees to schools and communities.
Trees woods and wildlife
Air pollution can have a serious impact on our health, global climate and biodiversity, but trees can help.
Trees woods and wildlife
Along with improving our quality of life, woods and green spaces can help make us physically and mentally healthier.