Edrych i mewn: Cymraeg
Coed Casw yn croesawu lansiad cynllun ffermio cynaliadwy cymru

Communications & Engagement Manager - Wales
Mae Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru, wedi mynegi optimistiaeth ofalus ynghylch lansiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, gan ei ddisgrifio fel cam cyntaf angenrheidiol mewn taith llawer hirach tuag at drawsnewidiad cyfiawn i bobl Cymru.
Wedi’i ddatgelu heddiw, mae’r Cynllun Rheoli Tir ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus yn nodi newid polisi sylweddol yn y ffordd y cefnogir rheoli tir ar gyfer nwyddau cyhoeddus yng Nghymru. Er bod angen mwy o waith i wireddu potensial llawn y cynllun i gyflawni uchelgeisiau natur, hinsawdd a chymdeithasol, mae Coed Cadw yn croesawu’r dull cydweithredol a gymerwyd yn ystod ei ddatblygiad ac yn ei weld fel sylfaen hanfodol ar gyfer tir cynaliaday yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r elusen wedi bod yn gyfrannwr ers tro at esblygiad y cynllun, gan ymgysylltu â ffermwyr, partneriaid amgylcheddol, a llunwyr polisi i helpu i sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu egwyddodion Rheoli Tir Cynaliadwy. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Coed Cadw wedi gweld newid cadarnhaol yn y ffordd y mae rhanddeiliaid yn ymgysylltu â dyluniad y cynllun, a chynghrair gynyddol ar draws sectorau o sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni ar gyfer pobl, natur a’r hinsawdd.
Mae Coed Cadw wedi annog i weld cynnwys Cam Gweithredu Cyffredinol 10, sy’n anelu at annog plannu coed a choetiroedd wedi’u teilwra i fusnesau fferm unigol trwy greu Cynlluniau Cyfle Plannu Coed a Choetiroedd – a bydd eu cyflawni’n cael ei alluogi trwy gymorth Ariannol yn yr haenau Dewisol a Chydweithredol – sy’n golygu y gall ffermwyr benderfynu faint a ble y dylid plannu. Mae’r dull hwn dan arweiniad ffermwyr yn adlewyrchu cydnabyddiaeth gynyddol nad yw coed yn gwrthdaro â chynhyrchiant, ond yn amlach na pheidio, maent yn gwella gwydnwch busnesau.
“Mae gan ddulliau integredig fel gwrychoedd, coed mewn caeau, amaethgoedwigaeth, a phori coetiroedd y potensial i ddarpari ystod eang o fuddion heb dynnu tir o gynhyrchu bwyd,” meddai Kylie Jones Mattock, Cyfarwyddwr Coed Cadw. “Gall y mesuaru hyn wella iechyd y pridd, hybu bioamrywiaeth, darparu lloches a chysgod i dda byw, a helpu i amddiffyn rhag effieithiau tywydd cynyddol eithafol.”
Mae’r CFfC hefyd yn cynnig taliadau ar gyfer ardaloedd o goetir a chynefinoedd naturiol a gynhelir, ac mae Coed Cadw yn ystyried hyn yn newid croesawgar o gynlluniau blaenorol a oedd yn aml yn eithrio ardaloedd coediog rhag cymorth ariannol. Gwelir cymhellion i fabwysiadwyr cynnar plannu coed a chreu gwrychoedd fel cam arall i’r cyfeiriad cywir.
Fodd bynnag, mae Coed Cadw yn pwysleisio bod yn rhaid i’r cynllun fynd ymhellach os yw am gyflawni ei botensial llawn a darparu’r manteision ychwangeol i natur a’r hinsawdd syss eu hangen mor dear. Mae’r elusen yn galw am lywodraethu cadarn, monitor rheolaidd, a chynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer haenau Dewisol a Chydweithredol y cynllun – y meysydd sy’n cynnig yr enillion mwyaf ar gyfer bioamrywiaeth, gwydnwch hinsawdd, a budd cyhoeddus. Bydd buddsoddiad ychwanegol, gan gynnwyd modelau cyllid cymysg, yn hanfodol i sicrhau bod yr elfennau hyn yn sicrhau’r manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economoaidd mwyaf posibl o reoli tir yng Nghymru.
Wrth fyfyrio ar y darpariaethau presennol, ychwanegodd Kylie Jones Mattock: “Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru fod rheoli tir cynaliadawy yn darparu nwyddau cyhoeddus hanfodol – megis aer a dŵr glân, storio carbon, a lles diwylliannol a chymunedol. Mae llunio’r canlyniadau hyn fel taliad ‘budd cymdeithasol’ yn bwysig, gan ei fod yn adlewyrchu gwerth cydgysylltiedig tir, pobl a lle. Nid allbynnau ynysig yw’r rhain, ond canlyniad perthynas gydfuddiannol rhwng ffermwyr, natur a chymdeithas. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio sut mae ffermio cynaliadwy yn cyfrannu ar draws meysydd polisi cyhoeddus, ac i sicrhau bod buddsoddiad yn y dyfodol yn adlewyrchu gwerth llawn y cyfraniadau hyn.”
Drwy fframio hwn fel taliad ‘budd cymdeithasol’, mae’n hanfodol ein bod yn cadw dealltwriaeth glir nad albynnau ynysig yw’r buddion hyn ond eu bod yn deillio o’r berthynas gydfuddiannol rhwng tir, cymuned, a lles ecolegol. Nyd yw’r dimensiynau hyn ar wahân – maent wedi’u cysylltu’n ddwfn. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio sut y gall rheoli tir cynaliadwy gyfrannu at sawl maes o bolisi cyhoeddus, ac i sicrhau bod cyllid ar gyfer y buddion hyn yn cael ei ddyrannu’n briodol ar draws adrannau i adlewyrchu eu gwerth eang a pharhaol.”
Y tu hwnt i bolisi, mae Coed Cadw hefyd yn canolbwyntio ar gynnig cefnogaeth ymarferol, gadarn i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n llywio’r cyfnod hwn o newid. Mae ffermio yng Nghymru ar drobwynt, ac i lawer, mae’r dyfodol yn dod ag ansicrwydd yn ogystal â chyfle. Trwy fentrau fel ‘MOREwoods’, ‘MOREhedges’ a Coed I’ch fferm, mae Coed Cadw yn darparu cyngor, cyllid a phartneriaeth i helpu i integreiddio coed mewn ffyrdd sy’n cefnogi nodau amgylcheddol a chydnerthedd busnes.
Ledled Cymru, mae ffermwyr sy’n gweithio gyda Choed Cadw wedi dangos sut y gall coed mewn lleoliadau da chwarae rhan hanfodol wrth wella lles anifeiliaid, gwella rheolaeth dŵr a phridd, ac amddiffyn ffermydd rhag sioc hinsawdd. O blannu gwrychoedd ucheldir ym Mhowys i goedlannau cylchdro byr ym Mro Morganwg, mae eu profiadau’n awgrymu dyfodol lle gall ffermio a chreu coetiroedd fynd law yn llaw.
Mae Coed Cadw yn gobeithio y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn darparu’r strwythur, y cymhellion a’r hyder sydd eu hangen ar fwy o ffermwyr i archwilio sut y gall coed gefnogi cydnerthedd eu tir, eu bywoliaeth a’u hetifeddiaeth.
Ynglŷn â Choed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru
Y Woodland Trust (Coed Cadw) yw’r elusen gadwraeth coetir fwyaf yn y DU. Mae ganddi dros 500,000 o gefnogwyr. Mae am weld DU sy’n gyfoethog mewn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dair prif nod:
- amddiffyn coetir hynafol, sy’n brin, yn unigryw ac yn anadferadwy,
- adfer coetir hynafol sydd wedi’i ddifrodi, gan ddod â darnau gwerthfawr o’n hanes naturiol yn ôl yn fyw,
- plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda’r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.
Wedi’i sefydlu ym 1972, mae gan y Woodland Trust Bellach dros 1,200 o safleoedd yn ei gofal sy’n cwmpasu tua 29,000 hectar. Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw).
Mae mynediad i’w goedwigoedd am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed. Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, “Coed Cadw”, yn derm hen Cymraeg, a ddefnyddir ewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu goedwig.