Edrych i mewn: Cymraeg

Mae Coed Cadw, sef The Woodland Trust yng Nghymru, wedi cyhoeddi enillwyr eu cystadleuaeth Cyfnod Allweddol 2, ‘Bod yn Greadigol ym Myd Natur’, a gynhaliwyd ar y cyd â’r Urdd.

Lluniwyd y gystadleuaeth i gael myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gysylltu â'r awyr agored, ac i’w hannog i ddefnyddio eu sgiliau i archwilio byd natur, ac i elwa ar amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu sy'n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.

Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Maldwyn, cafodd y myfyrwyr buddugol eu cydnabod am eu gweithiau celf, ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Cafodd eu prosiectau eu harddangos a’u dathlu yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2024 yn yr Arddorfa, sef ardal werdd wedi’i noddi gan Coed Cadw a oedd yn cyfuno’r amgylchedd a’r celfyddydau.

Enillwyr Cystadleuaeth 1 – ‘Lluniau a Geiriau’r Goedwig’

Gwaith Celf

  • Enillydd: Begw Grug Evans, Ysgol yr Hendre, Caernarfon
  • Ail wobr: Lily Grange, Ysgol Arddleen

Ffotograffiaeth

  • Enillydd: Logan, Ysgol Llangedwyn
  • Ail wobr: Scarlett, Ysgol Llangedwyn

Barddoniaeth

  • Enillydd (Cymraeg): Elis Rhys Rowlands, Ysgol Abererch
  • Ail wobr (Cymraeg): Ceti Wynne Jones, Ysgol Abererch
  • Enillydd (Saesneg): Steffan Danford, Ysgol Arddleen
  • Ail wobr (Saesneg): Rosie Edwards, Ysgol Arddleen

Enillwyr Cystadleuaeth 2 – ‘Archwilio Safbwyntiau Gwahanol’:

  • Gwobr gyntaf: Evelyn, Lily P, Caleb, ac Arthur, Ysgol Arddleen
  • Ail wobr: William, Ashton, Toby, Caitlin, Henry, a Kellan, Ysgol Arddleen
  • Trydedd wobr: Ysgol Nantgaredig

Roedd y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys Tammie Esslemont – ymgyrchydd ieuenctid ac aelod o banel Coed Cadw – yn canmol ymdrechion a chreadigrwydd y myfyrwyr.

Dywedodd Tammie, “Mae annog meddyliau ifanc i ymwneud â byd natur yn hanfodol er mwyn creu dyfodol cynaliadwy, ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r myfyrwyr wedi bwrw iddi yn y gystadleuaeth hon, ac wedi ymgysylltu mewn ffordd a fydd yn meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’r amgylchedd.”

Nodiadau i olygwyr

Gwybodaeth am Coed Cadw

Coed Cadw yw’r elusen cadwraeth coetiroedd fwyaf yn y DU. Mae wedi ymrwymo i gadw a gwarchod coetiroedd a choed brodorol, gan feithrin gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol.

Gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd

Gŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd, sy’n dathlu cerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau perfformio, gan ddarparu llwyfan ar gyfer talent ifanc o bob cwr o Gymru.